P-06-1215 Ailddechreuwch parkruns Cymru yr un pryd â rhai Lloegr
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan James Bruce, ar ôl casglu cyfanswm o 155 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae parkrun yn dda i iechyd y genedl. Mae’n darparu fframwaith i annog ymarfer corff ac yn helpu lles meddyliol.
Gofynnwn i parkruns gael eu caniatáu i ailddechrau ym mis Mehefin yr un pryd â rhai Lloegr a gwneud ymarfer corff yn flaenoriaeth.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Gogledd Caerdydd
· Canol De Cymru